yn ol i'r dudalen flaen
mwy o wybodaeth amdanom ni
ein bwydlen
'rydych chi yma
cysylltwch gyda ni
 
 

Mae Pysgod & Sglodion Y Castell wedi ei leoli ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri yng Nghricieth - y dref fechan brydferth ar lan-y-mor yng Ngwynedd, Gogledd Cymru.

Yn edrych i lawr ar y mor a chan ei bod cyn agosed i'r Castell, mae lleoliad y siop yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl leol yn gyffelyb.

  Click here to view the English version of this page
 
Pen Llyn a Gwynedd, Gogledd Cymru
5 Stryd y Castell, Cricieth, Gwynedd

Mae Cricieth wedi ei leoli 7 milltir oddi-wrth dref boblogaidd Porthmadog, a hefyd 7 milltir oddi-wrth y dref farchnad brysur - Pwllheli.

Gallwch gyrraedd Cricieth gan ddilyn y briffordd (yr A497) a chwilio am arwyddion tua Cricieth, y Castell, neu Amgueddfa Lloyd George (amgueddfa wedi ei chysegru i Brif Weinidog Prydain yn ystod y Rhyfel Byd I ac a fagwyd ym mhentref Llanystumdwy sydd o fewn 1.5 milltir i'r dref).

Mae gan Gricieth lawer o rinweddau yn cynnwys gwestai a thafarndai o safon uchel, digon o weithgareddau i gadw'r plant yn hapus, cyfleon i gerdded a mwynhau y bywyd gwyllt gwych sydd o'ch cwmpas, a nodweddion cyffredinol eraill fydd yn sicrhau y bydd eich ymweliad i'r ardal yn un pleserus a chofiadwy!

Mae Pysgod a Sglodion Castell yng Nghricieth wedi bod yn darparu pysgod & sglodion o safon uchel fel busnes teuluol ers dros 25 mlynedd
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Pysgod a Sglodion Y Castell - bwyd cyflym blasus o safon uchel

© Pysgod a Sglodion Y Castell, 5 Stryd y Castell, Cricieth, Gwynedd, Gogledd Cymru
01766 522081 | kateerowlands@gmail.com

Mwynhewch eich Pysgod a'ch Sglodion yn ein ystafell fwyta gyfforddus